Skip to main content Skip to page footer

Croeso i'r ŵyl!

Croeso i Ŵyl Ddrama Gogledd Ceredigion. Gŵyl ddaw â drama yn ôl i gymunedau yn ardal Aberystwyth!

Yn dilyn hoe hir wedi'r pandemig Covid, mae'r wyl yn dychwelyd i gymunedau yn ardal Aberystwyth yn 2024. Bydd cwmni lleol, a rhai ffrindiau talentog eraill yn diddanu cynulleidfaoedd yn Rhydypennau a Llanafan gydag amrywiaeth o berfformiadau - o fonologau comig i ddramâu sy'n ymdrin â phynciau cyfoes a dwys. Ymunwch â ni wrth i ni ddod â nosweithiau o ddrama yn ôl i'r adral - mae gwledd ar eich cyfer!