Skip to main content Skip to page footer

Y Fainc gan Emyr Edwards

Cwmni Drama'r Sarnau

Mae Les a Doris yn mynd am dro at y Fainc yn y parc brynhawn Sadwrn, yn union fel ac y maent wedi ei wneud ers blynyddoedd. Ond, heddiw, caiff eu bywyd priodasol ei newid yn llwyr gan yr ymwelydd annisgwyl â’r Fainc.

Cewch gyfle i weld perfformiad o'r ddrama hon gan ddau gwmni eleni, ac fe allwch fod yn hollol sicr y bydd y ddau berfformiad yn gafangwbl wahanol!

Comedi hwyliog gan y dramodydd amryddawn, Emyr Edwards.

Pry yn y Pren gan Brian Ifans

Cwmni Drama Llanystumdwy

Dyn: Mae hi’n unfed-awr-ar-ddeg. Yn ben set...

Pam tybed? Yn ben set ar beth? Amser a ddengys! Mwynhewch!

Nodwch bod y cyflwyniad yma yn cynnwys peth iaith anweddus

Y Fainc gan Emyr Edwards

Cwmni Drama Licris Olsorts

Tybed sut fydd dehongliad cwmni Licris Olsorts o gomedi hwyliog yr amryddawn Emyr Edwards yn gwahaniaethu â dehongliad cwmni'r Sarnau!?

Fe allwch fod yn sicr y bydd y ddau berfformiad yn gyfangwbl wahanol!

Cyfle unigryw i weld dau berfformiad gwahanol o ddrama boblogaidd iawn.

Ni'n Dwy gan Nan Lewis

Cwmni Drama Licris Olsorts

"Ein lles ni? Pwy erio'd fu'n becso am ein lles ni? Chi? CHI?! Na, Ann Morgan. Fu neb erio'd, a fydd neb chwaith yn gofidio amdanon ni'n dwy..."

Yn 1983 y cyhoeddodd Nan Lewis y ddrama hon, ond mae'r pwnc yr un mor amserol heddiw. Drama ddirdynnol am berthynas gymhleth mam a merch sy'n bodoli ar erchwyn y byd mae llawer ohonom ni'n gyfarwydd ohono.

Pwy yw dy Gymydog gan Ifan Gruffydd

Cwmni Drama Dinas Mawddwy

Tensiwn rhwng dau gymeriad pur wahanol sy’n gleifion mewn ward ysbyty gawn ni yng nghomedi hwyliog yr actor, comedïwr a’r dramodydd o Dregaron.

Fe gewch chi wledd o chwerthin gyda chriw talentog a phrofiadol Dinas!

Adolff gan Emyr Edwards

Cwmni Doli Micstiyrs

"Ti wedi tyfu yn fachan sy'n hoffi cwyno a chonan... Yn... Hitler bach. os ca' i 'weud..."

Beth sy'n gyrru Charli yn wallgo? Beth sydd gan Dic Lewis, gofalwr y parc, i'w wneud â'i gyflwr meddyliol?

Dewch i weld y cyflwyniad hwyliog hwn o ddrama cawr y ddeialog - Emyr Edwards - gan y criw ifanc, lleol dawnus yma.