Cefndir yr Ŵyl
Fe ddaeth y syniad o greu gŵyl ddrama wrth i aelodau a chynhyrchwyr rhai o gwmnïau drama'r ardal drafod pa mor brin yw cyfleoedd i berfformio dramâu erbyn hyn. Mae gwyliau drama bychain wedi araf ddiflanu dros y ddau ddegawd diwethaf, ac eto, mae cymaint o dalent actio a perfformio i'w gael ymysg trigolion yr ardal - yn enwedig rhai o'n pobl ifanc.
Felly penderfynwyd ceisio trefnu gŵyl fyddai'n rhoi cyfleoedd newydd i gwmnïau lleol i lwyfannu eu cynyrchiadau, ac - yn ogystal - i roi cyfle i gynulleidfaoedd lleol gael cyfle i'w mwynhau mewn nifer o leoliadau yng ngogledd y sir.
Mar'r ŵyl wedi estyn gwahoddiad i gwmnïau o tu allan i'r adral i berfformio yn ogystal, a gobeithir medru ehangu'r rhwydwaith yma yn y dyfodol.
Sefydlwyd pwyllgor i'w threfnu, ac wedi derbyn nawdd hael gan Gronfa Eleri, fe lawnsiwyd Gŵyl Ddrama Gogledd Ceredigion yn Ebrill 2018.
Cysylltu â ni
Os hoffech chi i'r ŵyl ymweld â'ch cymuned chi, neu os hoffai eich cwmni drama / theatrig chi berfformio yn yr ŵyl, yna cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.