Skip to main content Skip to page footer

Dafydd ap Gwilym ap Gwrach ap Potel gan Elen Pencwm

Clwb Ffermwyr Ifanc Tal-y-bont

Mae Dafydd ap Gwilym, druan, yn sengl, a wnaiff hynny mo'r tro. Sut caiff o hyd i gariad, a phwy ar wyneb y ddaear (neu yng Nghors Fochno), all ei helpu?

Pantomeim lliwgar llawn sbri gan Glwb Tal-y-bont, ddaeth yn ail yng Nghystadleuaeth Pantomeim CFfI Ceredigion, 2018.

Donald Bricit a Stryd y Domen gan saith o feirdd lleol

Cwmni Morlan

Petaech chi’n mynd am dro ar hyd Stryd y Domen yn Aberesmwyth efallai y caech eich synnu gan ei thrigolion. A fel petai tensiwn a ffraeo arferol y stryd ddim yn ddigon, fe ddaw Donald Bricit yr adeiladwr waliau draw i greu mwy o hafoc. Anterliwt gyfoes gan saith o feirdd lleol, (Phil Davies, Sarah Down-Roberts, Hywel Griffiths, Iwan Bryn James, Arwel Rocet Jones, Eurig Salisbury a Iestyn Tyne).

Dychmygol yw’r holl gymeriadau a damweiniol ydi pob tebygrwydd i gymeriadau go iawn – wir i chi!

Tu Hwnt i bob Gofid gan Sion Pennant

Cwmni Drama Doli Micstiyrs

Pam bod plant yr ysgol yn poeni Hannah, a phwy yw’r ‘cyfaill’ dirgel yna sy’n hongian o’i chwmpas? Tybed all Bethan ei helpu?

Drama bwerus sy’n delio â’r thema gyfoes gaiff ei pherfformio gan griw o actorion ifanc talentog.

Pwy yw dy Gymydog gan Ifan Gruffydd

Cwmni Drama Dinas Mawddwy

Tensiwn rhwng dau gymeriad pur wahanol sy’n gleifion mewn ward ysbyty gawn ni yng nghomedi hwyliog yr actor, comedïwr a’r dramodydd o Dregaron.

Rydyn ni'n siŵr o gael gwledd o chwerthin gan griw talentog a phrofiadol Dinas!

Y Fainc gan Emyr Edwards

Cwmni Drama Licris Olsorts

Mae Les a Doris yn mynd am dro at y Fainc yn y parc brynhawnn Sadwrn, yn union fel ac y maent wedi ei wneud ers blynyddoedd. Ond, heddiw, caiff eu bywyd priodasol ei newid yn llwyr gan yr ymwelydd annisgwyl â’r Fainc.

Comedi hwyliog gan y dramodydd amryddawn, Emyr Edwards.

A'r Maglau Wedi Torri gan Emyr Edwards

Cwmni Drama Licris Olsorts

Mae Gwenda’n poeni, a ‘dyw hi ddim yn disgwyl ymweliad – yn enwedig gan Sali. Tybed sut wnaiff hi ddelio gyda’r sefyllfa anghysurus sydd wedi codi mor annisgwyl?

Drama nerthol am berthynas dwy wraig gan feistr y ddeialog, Emyr Edwards.