Yng Nhesail y Cwm gan Sion Pennant
Cwmni Drama Licris Olsorts
Pwy yw’r cwmni sy’n mynnu galw Gwenno drwy’r amser? Beth yw’r heriau newydd sy’n ei hwynebu wrth iddi geisio diogelu dyfodol ei fferm fynyddig, a hynny ar ei phen ei hunan? A beth yw’r cymylau duon sy’n hofran yn fygythiol uwchben y cwm sy’n ei llochesu?
Apocalyps gan Emyr Edwards
Cwmni Drama Licris Olsorts
"Ma'r tŷ 'ma'n ddistaw"...
"Rwy'n clywed ei lais e 'mhobman"...
"Yn wag"...
"Lleisie fel cor ieuenctid!"
Taith drwy'r holl emosiynau yw'r gampwaith yma gan Emyr Edwards. Beth oedd yr apocalyps a chwalodd berthynas Mali a Dil? Wrth i'r Hydref ddychwelyd eto, cawn fflachiadau o ddyddiau gwell, hapusach, wrth i'w stori gael ei dadlennu.